Myfyrdod yn y Gymraeg

Event Series (See All)

April 28 @ 19:15 20:30

Dyma gyfle unigryw i ddysgu ac i ymarfer myfyrio (meditation) Bwdhaidd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso cynnes i bawb, boed eich bod heb fyfyrio o’r blaen neu eich bod wedi ymarfer ers rhai blynyddoedd ond erioed wedi cael y siawns i gael arweiniad yn y Gymraeg.

Bydd yna gyfle i gwrdd gyda’ch cyd ymarferwyr, i ofyn cwestiynau , ac i glywed sgyrsiau byr am y syniadau a’r gwerthoedd sy’n rhan annatod o fyfyrio Bwdhaidd: Er enghraifft datblygu ymwybyddiaeth gwell o’n teimladau, o garedigrwydd ehangach a heddwch mewnol.

Mae’r cyfle yma yn cael ei ddarparu gan aelodau o Gymuned Bwdhaidd Triratna, sydd yn cynnal canolfannau a grwpiau yng Nghaerdydd, Llangollen ac Aberystwyth.

Pryd?  

Bob pythefnos ar nos Fawrth am 7:15 o’r gloch

Ble?

Zoom: https://us02web.zoom.us/j/81901618109

Cod Pas: 526440

Does dim taliad am y sesiynau ond os hoffech roi, croeso ichi roi unrhyw swm croeso ichi neud yma:https://cardiffbuddhistcentre.com/donate