Newydd!-Myfyrdod yn y Gymraeg
Myfyrdod yn y Gymraeg – rhaglen newydd
O Hydref 5ed, byddwn yn rhedeg rhaglen newydd, ac yn cyfarfod bob yn ail nos Fawrth o 7.15 tan 8.30pm.
Mae’r amserlen wedi’i seilio ar y pump argymhelliad moesol (precepts) sydd yn gyffredin i bob mudiad Bwdyddiaeth. Bydd aelod o’r tim yn arwain pob noson efo sgwrs fer am un o’r argymhellion (yn dechrau efo sgwrs cyffredinol i egluro ar y noson gyntaf) cyn arwain myfyrdod efo’n gilydd.
Amserlen
- Hydref 5 – Cyflwyno yr argymhellion
- Hydref 19 – Yr argymhell cyntaf ‘Gyda gweithredoedd o garedigrwydd cariadus, Puraf fy nghorff’
- Tachwedd 2 – Yr ail argymhell ‘Gyda haelioni llawagored, Puraf fy nghorff’
- Tachwedd 16 – Y trydydd argymhell ‘Gyda tawelwch, symylrwydd a rhadlonrwydd, Puraf fy nghorff.’
- Tachwedd 30 – Y poedwerydd argymhell ‘Gyda gwir gyfathrebiad, Puraf fy mynegiant.’
- Rhagfyr 14 – Y pumed argymhell ‘Gyda meddylgarwch clir a gloyw, Puraf fy meddwl.’
Mi fydd croeso cynnes i bawb ymuno a’r nosweithiau, does dim angen ichi ymuno a phob noswaith a does dim angen ichi fod efo cyn brofiad o Fwdhaeth na myfyrio, ond wrth ymuno a phob noson, mi fydd y gyfres yn dyfnhau eich ymarfer.
Nos Fawrth,
Bob pythefnos 7.15-8.15pm
Ble?: Zoom
Gofrestrwch yma:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwsdequqz0qHNVEtbh76ObAcAZz23KtPGH0