Newydd!-Myfyrdod yn y Gymraeg
Dyma gyfle unigryw i ddysgu ac i ymarfer myfyrio (meditation)Bwdaidd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso cynnes i bawb, boed eich bod heb fyfyrio o’r blaen neu eich bod wedi ymarfer ers rhai blynyddoedd ond erioed wedi cael y siawns i gael arweiniad yn y Gymraeg.
Bydd yna gyfle i gwrdd gyda’ch cyd ymarferwyr, i ofyn cwestiynau , ac i glywed sgyrsiau byr am y syniadau a’r gwerthoedd sy’n rhan annatod o fyfyrio Bwdaidd: Er enghraifft datblygu ymwybyddiaeth gwell o’n teimladau, o garedigrwydd ehangach a heddwch mewnol.
Mae’r cyfle yma yn cael ei ddarparu gan aelodau o Gymuned Bwdaidd Triratna, sydd yn cynnal canolfannau a grwpiau yng Nghaerdydd, Llangollen ac Aberystwyth.
Pryd?: Bob pythefnos ar nos Fawrth am 7:15 o’r gloch
Noswaith gyntaf: 23 ain o Fawrth 2021
Ble?: Zoom
Gofrestrwch yma:
https://zoom.us/meeting/register/tJUkd–uqjotG90AmLx8SwJzWbg-zaDAA67x
With Metta,
Kamalagita
Chair of Cardiff Buddhist Centre